Y Rheolau

Postiwyd gan El Presidente | Yng nghategori Cyfarwyddiadau | Postiwyd ar 05-08-2005

9

Edrychwch ar safle’r gynghrair ffanstasi a dewch a thim 4-4-2 sy’n costio dim mwy na £50m erbyn sadwrn y 13 o Awst, ac fe gewch fod yn rhan o gystadleuaeth peldroed ffantasi Gymreiciaf y byd.

Un golwr, 4 amddiffynwr (2 ar yr esgyll), 4 canol cae a 2 ymosodwr mewn tim, gyda mwyafswm o 2 chwaraewr o unrhyw un tim pan y’i cofrestrir (os digwydd i chwaraewr newid tim wedi hyn, na phoener).

Bydd eilyddio ar gael ond ar ddydd calan ac ar ddydd olaf gwerthu chwaraewyr y flwyddyn. Bydd nifer yr eilyddion i’w trafod.

Anfonwch ebost i El Presidente (viva!) drwy law gwydion ar gruffudd atalnod org er mwyn cofrestru tim.

Sylwadau: (9)

Testio Testio un dau tri….

Dallt dim beth sydd yn mynd ymlaen efo’r safle newydd ma!
eniwe…son am big bryddyr….dyma link sydd yn dangos be nath y ferch i greu yr hylibalw……DIM YN SAFF YN GWAITH!!!!!
http://www.uselessjunk.com/modules.php?name=News&file=article&sid=2320&mode=nested&order=0&thold=-1

Ar ol cael un ymateb wedi’i gymeradwyo, mae pob sylwad arall yn mynd ar y safle’n awtomatig. Un o’r mesurau gwrth spam yw hyn. Yn amlwg, drwy adael dy rwtsh o ysgrifennu di drwyddo, mae wedi methu’n llwyr.

O leia dwi yn trio….gweld sa neb arall wedi creu neges eto!
So styc efo fi a fy rwtsh w ti washi! A bydda yn falch or peth..

Canolbwyntia am y tro ar gofrestru dy dim. Deadline penwythnos ‘ma, cofia.

Dwi wedi dewis fy nhim yn barod! Dwi ddim am ei yrru i ti tan y munud dwytha jest rhag ofn i chdi ddwyn fy syniadau i. Dwi yn gwbod faint o dwyllwr w ti.

Coesa bach yn pwmpio, ymennydd bach yn rogio!!!!

Aled

Credu bod Iwan ap yn cael problem postio sylwad – ma’ hwn jyst i weld os oes problem gyda 6 sylwad fel terfyn ai peidio – bydd e ddim ma’n hir… :)

Nonsens llwyr!

Fi sy’n thick a ddim yn teipio neges cyn clicio anfon sylwad!!!
Sori!!!

Ysgrifennwch sylw