Morricone! Hapus rwan?
Postiwyd gan Rikki Bulsara | Yng nghategori Sgoriau | Postiwyd ar 17-01-2006
6
Sgors 18
9 pwynt yn rhannu’r tri uchaf, sydd filltiroedd ar y blaen i bawb arall. Bwcis wedi stopio cymeryd bets ar pwy fydd y tri sy’n gorffen ar y podiwm. Kate Munchausen wedi cael wsos arbennig o dda yn sgorio 24 pwynt diolch yn bennaf i Terry Henry. Dim ond Rikki Bulsara (yay!) yn sgorio cymaint â hi ac El Pres (bww!) yn sgorio dau bwynt yn fwy.
219– Tomi Mawr- Moch Daear Fwdw
217– Ronco Bulsara- Bulsar Bulsar Bulsar Bulsar Broncos Bulsar
210– Owendo Morricone- Cadw dy ffydd, reff
168– Rhisiart Halflight- Halflight Rhishlyd
167– Gizbird- Bynnis Fflyffi
166– Garrido Inglaterra- Deportivo Vista do Castelo
160– Gizgiz “Geraint” McBeth- Gizmorica
158– El Proffesori- One off the wrist
156– El Presidente- Rot-Weiss Victorinox
154– Ricardo Davisino- Eilyddion Abertawe
150– Llyr ap Concorde y Bos- Legal Eagles
141– Salamander Fuse- Ponty Fusion
139– Deif O’Bob- The David Price Experience
132– Siôn ‘Juan’ England- CF Torta del Queso
123– Kate Munchausen- Kateraeth XI
116– Iwan Ap Sinsir- Krombacher XI
110– Syr Twrdyn- Wacko Jackos
101– Einion- Bellingen Sblash
99– Euryn “Huge” Mawr- Locomotiv Dwygyfylchu
57– Nyrs Ffion- Hangleidars Cynhyrfus Robaitsh Lewis

hapus? wel ydw a nac ydw…
Os wnai ddal i sgorio 2 yn fwy na Rikki, bydda i’n cyrraedd y top mewn…
*cyfri ar ei fysedd*
Reit! Rwy’ am ymestyn y tymor i orffen yn 2107!
CONSPIRISI
Mae na ymosodiad hiliol ar hogia ynys mon, match fixing yn warthus yma DWIN GORCHYMUN ymchwiliad i mewn ir achos mae yna coruption yma…………………………………ahhhhhhhhh dim os jyst sh*t dwi
Annwyl Mr Morris,
‘da chi’n lwcus iawn. Mi fydd na ymchwiliad trylwyr i mewn i’r ymosodiad hiliol honiedig hon. Gan fod El Pres newydd ei benodi fel pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol Cymru, Y Gabon a’r Byd (pencadlys – twr uchel yng Nghaerdydd) mi allai’ch sicrhau chi fydd y broses hon yn hollol dryloyw, teg ac un-ochrog.
Cwmni Cyfreithiol Myngysns Alwyn Bob Wyn Hughie
ar ran Rikki Bulsara ac El Pres
Annwyl Coruptites uffar
dwi am fynd a chi ir cwrt hawliau dynol……..mi gnocia chi or twr mawr uffar na ach llusgo chi i ynys mon a gwneud i chi fyw yn penysarn
Ahhhh Penysarn. Swnio’n iawn i mi. Pryd mae’r cnocio a’r llusgo’n cychwyn?