Cwpan y Byd
Postiwyd gan El Presidente | Yng nghategori Newyddion | Postiwyd ar 05-06-2006
17
Ar ôl cofrestru’ch tîm, dewiswch ymuno â chynghrair ffrindiau. Y pin fydd ei angen i ymuno a’r un iawn yw: 10870.
Mae’r rheolau’n syml, a’r nod yn glir – yn wahanol iawn i deitl y bencampwriaeth.
I weld y timau a’r tabl, dim ond clicio sy’ rhaid gwneud ar safle Sianel 4 Lloegr .
Viva!

haribo tender wensly plains ‘pon my word – pwy yffarn yw hwn? barod i ymuno a’r gystadleuaeth, ond ddim eisiau ychwanegu cyn gwybod pwy yw e’
fi
bollocks – newydd wasgu “remove my team” ar ddamwain – ai dim ond fi sydd yn gweld y botwm yna mewn safle hynod anghyfleus? dw i bron a’i bwyso bob tro dw i’n edrych ar fy nhim.
ga’ i chwarae gyda’r bechgyn mawr eto plis?
Fel mae’n digwydd sdim lot o bwynt – fi fydd yn ennill y twrnament un ffordd neu’r llall – ti ond wedi gwneud beth fydda i’n gwneud i bawb arall sy’n gorffen yn uwch na fi…
Ho ho El Presidente. Mond (*dechrau cyfri ar ei fysedd, rhedeg allan o fysedd*) 49pt sydd angen arnat i gyrraedd y brig. Ond yn bwysicach – ydi Rikki Bul yn mynd i gyflawni’r dwbwl eleni? Allwn ni ond gobeithio.
what gives wiseguy? ble aeth fy 81 (and counting) o bwyntiau gogoneddus?
der mlan nawr – nobody likes a joke more than me, except maybe my wife. and some of her friends. come to think of it… *BANG* *AW! STOP IT!*
oh ie, fy mhwynt gwreiddiol. der a fy mhwyntiau nol! neu fe gyflawnir gweithredoedd tra ysgeler o deyrnfradwriaeth. VIVA ! (PUNK)
O diar. Owendo wedi’i collu’i farblis o’r diwedd…
A Rikki – Dwbl? Gallwn ni ond gobeithio bod dy swydd yn cael gymaint o sylw a dy ffantaseiddio. Mae’r gosodiad yn sefyll. Fi fydd yn ennill eleni – un ffordd neu;r llall
zambrotta i sgorio hat-trick a chael un assist bach arall nos sul, ac fe fydda i wedi dy guro di’n rhacs, bulsarovich.
gwylia dy din!
http://channel4.fantasyleague.com/FriendsLeague.aspx?p=10870
Llongyfarchiadau i fi.
Hahahahaha. Ia doniol iawn. Ffcn gerrymanderer uffar. Rho fo’n nôl rwan i’w ffurf gywir i bawb gael gweld y glory of Rikki Bulsara. 25ain trwy’r byd i gyd. Truly a champion. Llongyfarchiadau I Martell ac El Proff am orffen ar y podiwm hefyd.
Melltith ar ben El Presidente sy’n methu pigo’i drwyn heb sôn am dîm llwyddiannus.
ga’ i estyn fy llongyfarchions cynhesaf i ricardo x bulsara ar ei gamp. mae 25ed drwy’r byd yn gyfan yn gamp nid bychan. da iawn wir.
Not bad – be wyt ti’n ennill am fod yn 25ain? Rhaid llongyfarch cyrhaeddiad cael Quim ar y dudalen flaen.
Podiwm? Fi’n siwr fod Ffrainc yn hollol chuffed o fod yn ail
“Truly” a “Champion” enwau dy cocker spaniels newydd?
o.n. Wnes i aros yng Nghockermouth wythnos diwetha’ ar y ffordd i’r Alban pell. Jyst meddwl bydde ambell un yn hapus gwybod.
Wel dwi’n siwr mod i’n ennill mwy na rhywun sy’n gorffen yn 21,561fed, eh Pres?
Change bach neis i chdi gael aros yn Cockermouth gan dy fod ti’n cymeryd dy wyliau blynyddol yn Cockendean fel arfer.
oh, touché!
amhrisiadwy bois bach.
vive la fresh badinage!
quim, cockendean – roll on tymor yr uwchgynghrair – mae’n mynd i fod yn flwyddyn vintage, bois bach.
Na, fi’n eitha siwr dy fod ti ‘di ennill ffcol mwy na’r un sy’ ‘di gorffen yn 21,561ed. O na! Aros! Mae’r un sy’ wedi gorffen yn 25ain yn cael aros mewn Plasdy yn Nghapel Bangor am… wel… sbel go lew ta beth. Llongyfarchiade!
Fresh Badinage? Gwell i’r ffrangeg ‘ma wella cyn hir, ne fyddi di mewn trwbl…
Vraiment a l’homme, Twm Twm.
be sy’n dicwdd gyda’r tymor newydd bois?
fydd ‘na gyhoeddiad arlywyddol cyn hir?
mae fantasyleague.com yn hysbysebu’r tymor newydd ishws.
yffarn dan, ma’ hartson yn whare pre-seasons i’r bagwyr.
wy ar goll heb bach o ffantasi yn fy mywyd.
ffantasi lolfa unrhyw un?
[ac hefyd, el presidente (viva etc) - ti'n meddwl gallwn ni gael llif RSS ar gyfer y tymor newydd. ni ishe bod fel yr holl blant erill, nag 'yn ni?]