TYMOR NEWYDD 2006/07
Postiwyd gan Rikki Bulsara | Yng nghategori Cyfarwyddiadau, Newyddion | Postiwyd ar 07-08-2006
10
Dyma ni unwaith eto ar drothwy tymor newydd sbon sgleiniog. Gobeithio fod y rheolwyr oll wedi cael amser ymlaciol yn gweithio ar eu tans yn eu retreats yn y Caribî, Ayia Napa, Porthcawl a Rhyl. Mae’r amser wedi dod i roi heibio eich pina coladas a’ch cuban ceegars a canolbwyntio ar y gwaith mewn llaw. Mae’r un rheolau yn sefyll – 11 dyn (1 golwr, 4 amddiffynwr, 4 canol-caewr, a 2 streicar) £50 miliwn yn y banc a dim mwy na 2 o unrhyw glwb. El Pres, mae’r rheolau yn berthnasol i tithau hefyd. Ewch i’r un safle ag o’r blaen i weld pa chwaraewyr i’w dewis, sef classic.fantasyleague.com.
Anfonwch eich timau o no-hopers i rikkibul yn hotmail dot com neu i iwan dot ap dot dafydd yn llgc dot org dot uk cyn 12.45pm ar 19/08/06.
Dewch mlaen i weld os fedrith unrhyw un guro Rikki Bulsara eleni (no chance).

Duw, dwi’n edrych ymlaen eleni – llynedd yn bach o disaster a deud y gwir!!!
podium fydd hi eleni i mi – bach fel wrecsam!!
Allai gael £5,000,000 arall plis?
Duw, dwi’n edrych ymlaen eleni – llynedd yn bach o disaster a deud y gwir!!!
podium fydd hi eleni i mi – bach fel wrecsam!!
Gei di £50,000,000 arall a mi fentrai nei di ddal orffen yn y bottom half.
Fel Wrecsam?! Ti’m yn anelu’n uchel iawn yn nagwyt?
Reit. Ar ol geiriau Bulsara, dwi actually’n mynd i drio eleni.
That’s my boy! (Does na’m lot i’r busnes “mind games” ma, nagoes.)
dwi am wneud bach o ymchwil eleni! roedd syrthio’n is na
Mr England Snr yn humiliating!!!
Rhaid i mi gadw cefn Mr England Snr yn fan ‘ma – mae o, wedi’r cwbl, yn un o’r Big Three sydd wedi ennill y bencampwriaeth.
pawb, mae’n debyg, yn cadw’i cardiau yn agos at eu bronnau ie? dim lot o sgwrsio yma… neb yn rhannu tips… henry? rooney? ydy lampard am fod yn asgwrn cefn sawl tilt at y teitl eto? anaf ashton efallai wedi gorfodi ryw ychydig o rethink fan hyn fan draw? mae’n job y 50 miliwn yma, joban a hanner. bydde hyd yn oed ‘arry “fagin” redknapp yn ei chael hi’n anodd…
Wedi cryn dipyn o feddwl, dwi bellach wedi penderfynu taflu dart at y sgrin er mwyn dewis fy nhim…wehey…Phil Neville!