Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Cyfarwyddiadau, Newyddion | Postiwyd ar 04-01-2012
0
Blwyddyn Newydd Dda a gwnewch yn siwr eich bod yn anfon eich sybs i mi cyn dydd sadwrn 14eg o Ionawr (5 syb max.) ar rich yn rhp.demon.co.uk neu rcp yn aber.ac.uk neu ar 07722273926. Diolch yn fawr iawn a pob lwc. Dyma nhw’r timau fel mae nhw ar hyn o bryd…
Darllenwch weddil y darn »
Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Cyfarwyddiadau | Postiwyd ar 10-08-2011
2
Newyddion da! Tymor newydd arall wedi cyrraedd a mae Mrs Rikki Hughes-Bulsara wedi rhoi caniatiâd i Mr Rikki gael chwara efo’r hogia eto eleni.
Da chi’n gwbod y drefn - rich yn rhp dot demon dot co dot uk neu rcp yn aber dot ac dot uk neu 07722273926. http://www.fantasyleague.com/Classic/Stats/PlayerList.aspx ‘di’r lle i fynd.
1-2-2-4-2 formation, £50m, 2 max. o unrhyw dîm. Dim twyllo, El Pres. Triwch gael nhw mewn erbyn dydd sadwrn, ond os da chi’n brysur yn Llundain neu Birmingham yn siopa am treinyrs a flat screen tellies mi wnawn nhw wsos nesa. Neu wsos wedyn i Bobby Clodge gan fod o ar ei wyliau (neith o’m gwahaniaeth, fydd o’n dal yn hanner gwaelod y tabl hyd yn oed os bigith o dîm bythefnos o ddiwedd y tymor)
Pob lwc
Rikki B
Postiwyd gan El Presidente | Postiwyd yng nghategori Cyfarwyddiadau, Newyddion | Postiwyd ar 04-08-2009
1
Mae’r tymor ar ddechrau eto!
Dyw’r rheolau heb newid rhyw lawer: 11 chwaraewr i gostio dim mwy na hanner can miliwn. 1 golwr, 2 amddiffynwr canol, 2 amddiffynwr asgell, 4 canol cae a 2 ymosodwr. Dim mwy na 2 chwaraewr o unrhyw dim.
Anfonwch eich timau i gwydion yn gruffudd atalnod org. Ddim yn hollol siwr pwy wneith y sgorio eleni, ond fe geith ei wneud un ffordd ne’r llall.
Viva El Presidente nuevo!
Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Cyfarwyddiadau, Newyddion | Postiwyd ar 07-08-2006
10
Dyma ni unwaith eto ar drothwy tymor newydd sbon sgleiniog. Gobeithio fod y rheolwyr oll wedi cael amser ymlaciol yn gweithio ar eu tans yn eu retreats yn y Caribî, Ayia Napa, Porthcawl a Rhyl. Mae’r amser wedi dod i roi heibio eich pina coladas a’ch cuban ceegars a canolbwyntio ar y gwaith mewn llaw. Mae’r un rheolau yn sefyll – 11 dyn (1 golwr, 4 amddiffynwr, 4 canol-caewr, a 2 streicar) £50 miliwn yn y banc a dim mwy na 2 o unrhyw glwb. El Pres, mae’r rheolau yn berthnasol i tithau hefyd. Ewch i’r un safle ag o’r blaen i weld pa chwaraewyr i’w dewis, sef classic.fantasyleague.com.
Anfonwch eich timau o no-hopers i rikkibul yn hotmail dot com neu i iwan dot ap dot dafydd yn llgc dot org dot uk cyn 12.45pm ar 19/08/06.
Dewch mlaen i weld os fedrith unrhyw un guro Rikki Bulsara eleni (no chance).
Postiwyd gan El Presidente | Postiwyd yng nghategori Cyfarwyddiadau, Newyddion | Postiwyd ar 23-03-2006
4
3 syb erbyn terfyn mis mawrth. Y tim terfynnol yn gorfod cydymffurfio a’r rheolau arferol.
Anfonwch nhw at RikkiBul@fi’ncarufyhunan.com (neu gwydion ar gruffudd atalnod org – sdim ots da fi)
Ymlaen!