Tymor 2009-10

Postiwyd gan El Presidente | Postiwyd yng nghategori Cyfarwyddiadau, Newyddion | Postiwyd ar 04-08-2009

1

Mae’r tymor ar ddechrau eto!

Dyw’r rheolau heb newid rhyw lawer: 11 chwaraewr i gostio dim mwy na hanner can miliwn. 1 golwr, 2 amddiffynwr canol, 2 amddiffynwr asgell, 4 canol cae a 2 ymosodwr. Dim mwy na 2 chwaraewr o unrhyw dim.

Anfonwch eich timau i gwydion yn gruffudd atalnod org. Ddim yn hollol siwr pwy wneith y sgorio eleni, ond fe geith ei wneud un ffordd ne’r llall.

Viva El Presidente nuevo!

Cinio Gabon 2009

Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Newyddion | Postiwyd ar 22-05-2009

1

Fe ddaeth yr amser unwaith eto. Fe fydd y cinio yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn Mehefin y 6ed am 6.30 yn y Casablanca. Cyn hynna mi fydd gem o gicio pêl (ar gae artiffisial Park Avenue am 12.00 o’r gloch gobeithio – manylion pellach i ddilyn).

Dyma restr bwydydd i’ch helpu chi ddewis be i’w lowcio yn y CasaB. Cofiwch adal i Bobby Cloj (iwan.ap.dafydd yn llgc.org.uk) wybod be da chi isio, neu postiwch o isod. Darllenwch weddil y darn »

Sybs

Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Newyddion | Postiwyd ar 06-04-2009

1

Amser sybio wedi cyrraedd unwaith eto – a wnewch chi anfon nhw (3 syb) i mi cyn Ebrill yr 11fed os gwelwch yn dda, fydd yn rhoi 7 rownd o gemau i chi droi petha rownd cyn diwedd y tymor, neu yn achos Rikki Bulsar i stopio Thomas The Tank, sy’n hyrddio ar hyd y cledrau fel express trên, gael ei grafangau budr ar y troffi sgleiniog neis.
rich yn rhp.demon.co.uk neu rcp yn aber.ac.uk neu 07913148660os gwelwch yn dda.

Sgors 16 a rhestr y timau wedi'r sybs

Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Newyddion | Postiwyd ar 12-01-2009

0

218 – Rikki Bulsar Banyana Macanaci – Brave John Terrys
193 – El Presidente – Gabrielkarigamombe Sodindobanana Standardledge
183 – Owendo Morricone – Zenit Santa Martella
177 – Thomas the Tank – Rapid Viennetta
173 – Junior Dafydd – Perturbador Corto XI Darllenwch weddil y darn »

Cinio Dolig/Flwyddyn Newydd/Hanner Tymor

Postiwyd gan Rikki Bulsara | Postiwyd yng nghategori Newyddion | Postiwyd ar 07-01-2009

0

Mi fydd y Cinio yn cael ei gynnal yn y Casablanca ar Ionawr 17 am 6.30 yr hwyr. Pawb sydd am ddod i roi eu henwau i iwan.ap.dafydd yn llgc.org.uk neu rich yn rhp.demon.co.uk. Dewch pawb yn lu.